Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Mawrth 2021
Amser:
09.15 -
12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11057
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Darren Millar AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS Llyr Gruffydd AS |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru |
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton (Archwilydd Cyffredinol Cymru) Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2a Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (11 Chwefror 2021)
2b Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (12 Chwefror 2021)
3 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Llywodraeth Cymru - Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / GIG Cymru
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gydag Andrew Goodall - Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru ynghylch ei fyfyrdod ar y Pumed Cynulliad/Bumed Senedd i helpu i lywio Adroddiad Gwaddol y Pwyllgor.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Myfyrdod ar y Pumed Cynulliad/y Bumed Senedd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth a gafwyd a'r hyn yr oeddent am ei adlewyrchu yn yr Adroddiad Gwaddol.
5.2 Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion a godwyd.
6 Rhwystrau i Weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus: Trafod yr adroddiad drafft, a chytuno arno
6.1 Ymunodd Llyr Gruffydd AS â'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
6.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Awgrymwyd nifer o ddiwygiadau y bydd y Pwyllgor yn eu trafod ymhellach yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2021.